Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 11 Mai 2017
Amser: 09.30 -
14.17
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4216
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Jayne Bryant AC Suzy Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC Julie Morgan AC Lynne Neagle AC |
Tystion: |
Dr Gareth Llewelyn FRCP, Coleg Brenhinol y Ffisigwyr Lowri Jackson, Coleg Brenhinol y Ffisigwyr Dr Brendan Lloyd, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Grayham McLean, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Martin Woodford, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Mair Davies, Cadeirydd, Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Suzanne Scott-Thomas, Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Judy Henley, Fferylliaeth Gymunedol Cymru Mark Griffiths, Fferylliaeth Gymunedol Cymru Ruth Crowder, Coleg y Therapyddion Galwedigaethol Dr Alison Stroud, Royal College of Speech and Language Therapists Philippa Ford, Chartered Society of Physiotherapy Louise Lidbury, Coleg Brenhinol y Nyrsys Alison Davies, Royal College of Nursing Wales |
Staff y Pwyllgor: |
Sian Thomas (Clerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriad gan Angela Burns AC. Roedd Suzy Davies AC yn dirprwyo ar ran Angela.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Goleg Brenhinol y Meddygon.
3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol a Fferylliaeth Gymunedol Cymru.
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Goleg y Therapyddion Galwedigaethol, Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd a Chymdeithas Siartredig Ffisiotherapi
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Goleg Brenhinol y Nyrsys.
6.2 Cytunodd Alison Davies o Goleg Brenhinol y Nyrsys y byddai'n darparu ymateb i'r Pwyllgor:
· yn mynd i'r afael â'r materion o indemniad posibl sy'n gysylltiedig ag ystod ehangach o staff proffesiynol sy'n gweithio mewn practisau meddygon teulu neu gyda phractisau o'r fath;
· yn ateb y cwestiwn a yw gwahanol fodelau gweithredu ar draws y 64 clwstwr yn ei wneud yn anodd i Goleg Brenhinol y Nyrsys gynllunio'n strategol.
7.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Goleg Brenhinol y Nyrsys ynghylch Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsys (Cymru).
8.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod eitemau 2, 3, 4, 5 a 6 y cyfarfod.
10.1 Cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafod yr eitem hon tan y cyfarfod yr wythnos nesaf.
11.1 The Committee considered correspondence related to its Forward Work Programme.